Health

Health







DIWYDIANNAU GWASANAETHU

Diploma Estynedig BTEC
Iechyd
&
Gofal Cymdeithasol



Uned 11; Diogelu Oedolion a Hybu Annibyniaeth

Darlithydd; Jim Hill

Mae’r uned hon yn anelu at alluogi dysgwyr i fod yn ymwybodol o wahanol fathau o gamdriniaeth ac i ddeall pam y gall hyn ddigwydd. Byddant yn medru datblygu gwybodaeth o waith i ddiogelu oedolion, a dealltwriaeth o sut mae hawliau, annibyniaeth a lles oedolion yn cael eu hybu drwy ddull o weithio pobl-ganolog, aml-asiantaethol.

Tra dylid amddiffyn hawliau pob unigolyn, mae oedolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ymysg y rhai sydd fwyaf mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod. Rhaid i ddysgwyr adnabod sefyllfaoedd a all arwain at gamdriniaeth ac esgeulustod, a’r angen am ymdriniaeth pobl-ganolog sy’n darparu perthnasau o gefnogaeth ac ymddiriedaeth.

Bydd dysgwyr yn ymchwilio i arwyddion a symptomau'r wahanol fathau o gamdriniaeth, gan eu galluogi i adnabod camdriniaeth pan fo’n digwydd. Yna byddant yn mynd ymlaen i archwilio ffactorau rhagdueddol a all arwain at sefyllfaoedd o gamdriniaeth. Bydd dysgwyr yn archwilio ystod o strategaethau a threfniadaethau y mae sefydliadau yn eu defnyddio i leihau’r risg i unigolion, a gwybod y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau allweddol sy’n llywodraethu gwaith diogelu yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r uned yn cynnwys y 5 canlyniad dysgu ac erbyn cwblhau dylech;

1 Wybod y mathau a’r dangosyddion camdriniaeth
2 Deall ffactorau a all arwain at sefyllfaoedd o gamdriniaeth
3 Gwybod y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau sydd yn llywodraethu diogelu oedolion.
4 Gwybod strategaethau a threfniadaethau gwaith i leihau’r risg o gamdriniaeth i oedolion
5 Deall rôl perthnasau cefnogol i hybu hawliau, annibyniaeth oedolion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

I fod yn llwyddiannus yn yr uned hon byddwch angen ateb y tasgau gosodedig yn y daflen hon.

Meini...

Similar Essays